Our Story

Cutiau Cwm Canada was established in July 2023 with the vision of creating a unique and welcoming countryside retreat in the heart of rural Wales.

The business is run by Huw, Meinir, Grug and Tudur, and takes its name from the valley we call home – Cwm Canada. This special place means a great deal to us and offers breathtaking views across the Banwy Valley.

We live on a smallholding surrounded by the beautiful Welsh countryside and have always appreciated the peace, tranquillity and natural beauty of the area. It had long been our dream to design and build our own shepherd's hut here on the farm, allowing others to experience everything this wonderful location has to offer. After months of careful planning, construction, and plenty of hard work, that dream finally became a reality.

Sefydlwyd y busnes Cutiau Cwm Canada ym mis Gorffennaf 2023, gyda’r nod o greu profiad unigryw a chroesawgar yng nghanol cefn gwlad Cymru. 

Mae’r busnes yn cael ei redeg gan Huw, Meinir, Grug a Tudur ac mae enw’r busnes wedi’i ysbrydoli gan enw’r cwm lle rydym yn byw — lle sy’n arbennig iawn i ni ac sy’n cynnig golygfeydd godidog dros Ddyffryn Banw. 

Rydym yn byw ar dyddyn bach yng nghefn gwlad ac yn gwerthfawrogi harddwch naturiol yr ardal a’r llonyddwch sy’n ei hamgylchynu. Roedd hi’n freuddwyd gennym i gynllunio ac adeiladu cwt bugail ein hunain yma ar y fferm, er mwyn rhannu’r profiad arbennig hwnnw gydag eraill. Ar ôl misoedd o gynllunio manwl, adeiladu, a llawer iawn o waith caled a “thorchi llewys”, daeth y freuddwyd honno’n realiti.

We look forward to welcoming you to Cutiau Cwm Canada, where you can unwind, take in the spectacular views, explore the many attractions and walking routes nearby, and enjoy a truly relaxing escape in the heart of the Welsh countryside.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu yma yng Nghwm Canada, i fwynhau’r golygfedd prydferth, ymweld ac atyniadau’r ardal gyfagos a manteisio ar y cyfle i ymlacio. 

Mae Meinir yn gweithio fel cymhorthydd dosbarth mewn ysgol leol ac yn mwynhau’r ochr groesawgar o’r busnes — o dwtio a pharatoi’r cwt i sicrhau bod pob gwestai yn cael croeso cynnes ac arhosiad arbennig.

Mae Huw yn gweithio fel contractwr amaethyddol, ond y tu allan i’w waith mae ganddo angerdd mawr dros waith metel a weldio. Adeiladwyd y cwt bugail yn gyfan gwbl yn y gweithdy ar y fferm, gan roi cymeriad unigryw a chyffyrddiad personol iddo.

Mae Grug a Tudur hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y busnes; mae Grug yn gyfrifol am yr ochr farchnata, tra bod Tudur yn gofalu am y tiroedd a’r amgylchedd o amgylch y cwt.